Ffurflen Gais Llysgenhadon Addysg Into Film 

Mae'n Llysgenhadon Addysg yn darparu adnodd a chyngor bwysig i ni er mwyn inni deilwra a datblygu ein rhaglenni gwaith. Mae'r Llysgenhadon Addysg hefyd yn manteisio ar y cyfle i ddod ynghyd a rhannu arfer dda ar draws Cymru ac ar draws y DU.


Os oes diddordeb gyda chi i ddod yn Lysgennad Addysg i Into Film, yna cwblhewch y ffruflen gais isod erbyn Ddydd Mercher 25 Medi 2024. Ry'n ni'n awyddus iawn i sicrhau y bod rhai o'n Llysgenhadon yn medru'r Gymraeg (rhugl neu'n dysgu) felly croesewir ceisiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.



Mae amrywiaeth a bod yn gynhwysol yn rhan allweddol o waith Into Film ac ry'n ni'n croesawi ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a hunaniaeth; yn enwedig gan unigolion o grwp ethnig lleiafrifol. Mae pob Llysgennad Addysg yn cynrychioli perspecif gwahanol ac felly mae'n bwysig ein bod yn barod i wrando a sicrhau amrywiaeth yn ein grwpiau gwaith.


Os hoffech chi wybod mwy am ein gwaith yn ymwneud ag Amrywiaeth, Tegwch, Cydraddoldeb a Chynhwysiad, cysylltwch a ni drwy ebostio : ambassadors@intofilm.org

 

 

Diolch













Byddai'n wych petai modd ichi gadarnhau'r isod.