Bydd ein Llysgenhadon Addysg yn rhoi adborth amhrisiadwy, eu
mewnwelediadau a'u gwybodaeth ar ein rhaglenni gwaith. Bydd ganddynt hefyd y
cyfle i rwydweithio a rhannu arferion da gydag addysgwyr eraill o bob cwr o'r
DU.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'n cynllun Llysgenhadon
Addysg, cwblhewch y ffurflen hon.
Mae cynhwysiant ac amrywiaeth yn allweddol i'r gwaith a wnawn; rydym yn
croesawu ac yn annog ymgeiswyr o bob cefndir a hunaniaeth i wneud cais, ac yn
enwedig pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gyda phob Llysgennad Addysg
newydd daw cyfle i ni ddod â safbwynt gwahanol, ac rydym bob amser yn awyddus i
amrywio ein grŵp ymhellach.
Os hoffech wybod mwy am waith Cydraddoldeb, Ecwiti, Amrywiaeth a
Chynhwysiant Into Film, e-bostiwch ambassadors@intofilm.org, gyda EEDI yn y
llinell bwnc.