Dyma faes diddordeb rhaglenni newydd Into Film.
Rhaglenni gwaith Into Film.
Mae ein gwaith wedi’i i rannu i dri raglen waith penodol
- wele isod.
Rhowch y rhain mewn trefn 1-3 o’r hyn sydd o ddiddordeb mwya
ichi. (1= Diddordeb Cryf, 2 = Diddordeb, 3 = Rhywfaint o Ddiddordeb). Noder,
efallai na fydd hi’n bosib cysylltu chi gydag eich hoff raglen ond gwnawn ein
gorau i wneud hynny!!
Cyn i chi rhoi'r rhain mewn trefn, dyma drosolwg byr o’r meysydd yma.
Gyrfaoedd Sgrin: Rydym yn cynnig hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor i arweinwyr gyrfaoedd ysgolion a cholegau fel ei bod yn gallu cefnogi pobl ifanc i archwilio gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu. Byddwn yn holi aelodau’r Cyngor Ieuenctid am eu syniadau er mwyn o llywio’n gwaith ar ein gwefan gyrfaoedd, hyfforddiant i athrawon, a bydd cyfle i ddylanwadu ar arlwy uniongyrchol a phobl ifanc (podlediadau, cynnwys cyfryngau cymdeithasol, a.y.b)
Gwneud Ffilmiau - rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc i greu, dysgu a darganfod eu llais trwy weithgareddau creu ffilmiau ymarferol. Caiff y Cyngor Ieuenctid gyfle i ffurfio a chyfrannu at ein hadnoddau a hyfforddiant yn y rhaglen hon - gyda'r nod o roi'r cyfle i bobl ifanc ac athrawon i ddathlu eu gwaith mewn dulliau newydd, ac i ehangu'n cefnogaeth i wneuthurwyr ffilm ifanc.
Dysgu gyda Ffilm: rydym yn hyfforddi a chefnogi athrawon i ddefnyddio ffilm ar draws amryw o bynciau'r cwricwlwm er mwyn gwella safonnau addysg. Rydym yn awyddus i glywed eich meddyliau chi ar hyfforddiant dysgu ac ar adnoddau er mwyn helpu athrawon i gadw ffilm yn rhan ganolog o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn helpu dylanwadu ar ba weithgareddau yr ydym yn cynnig i athrawon a hefyd yn cael dylanwad ar y ffilmiau sydd ar ein catalog ar-lein.